Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Geffylau

Cynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

ar ddydd Mawrth 4 Mawrth 2014 am 6pm

 

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC (Cadeirydd)

Stuart Burns (Staff cymorth Angela Burns)

Mark Alexander (Dirprwy bennaeth amaeth / materion gwledig, Llywodraeth Cymru)

Lee Hackett (Cyfarwyddwr Polisi Ceffylau Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Jenny MacGregor (SWHP)

Sian Lloyd (SWHP)

Rachel Evans (Cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru)

Tony Evans (WHW)

Alan Pearce (WPCS)

Phillip York (Ymgynghorydd lles ceffylau)

Steve Carter (Cyfarwyddwr RSPCA Cymru)

William Jenkins (NFU Cymru)

Huw Thomas (NFU Cymru)

Elaine Griffiths (Cymdeithas Ceffylau Prydain - Lles Cymru)

Jan Roche (Cymdeithas Ceffylau Prydain / ysgrifenyddiaeth trawsbleidiol)

Colin Thomas (Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd)

 

                                                                                                                                   

Ymddiheuriadau:

Janet Finch-Saunders AC (Is-gadeirydd)

William Powell AC

Llyr Huws Gruffydd AC

Nic De Brauwere (Redwings/NEWC)

Janet Williams (BDS Cymru)

Mark Weston (Cyfarwyddwr mynediad Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Graham Capper (Ymgynghorydd ceffylau)

Maureen Lloyd (STAGBI)

Brian Peachey (STAGBI)

Helen Manns (Is-gadeirydd Cymdeithas Ceffylau Prydain - Cymru)

 

 

                                                   

 

1.      Croesawodd Angela Burns bawb i'r cyfarfod.

 

2.      Cyfarfod cyffredinol blynyddol - Cynhaliwyd y weithdrefn ffurfiol o benodi cadeirydd ac ysgrifenydd.  Cynigiwyd Angela Burns yn gadeirydd gan Alan Pearce. Eiliwyd hyn gan Rachel Evans. Cynigiwyd Jan Roche yn ysgrifennydd gan Phillip York. Eiliwyd hyn gan Jenny MacGregor. Gan nad oes cyllid na chofnodion ariannol, nid oes angen adroddiad. 

 

3. Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law

 

 

4. Nodwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

5. Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

Diolchodd Angela Burns i bawb a oedd wedi cyfrannu at y broses, gan bod y grŵp wedi bod yn allweddol o ran rhoi cyngor ar hyn.  Yn ogystal, cafodd y cynllun gweithredu ar gyfer y Bil ei groesawu.  Mae'n ymddangos mai'r grŵp trawsbleidiol hwn yw'r unig un sydd wedi cael canlyniad o'r fath. Roedd Aelodau Seneddol yn Lloegr nawr yn cymryd sylw o'r camau gweithredu hyn yng Nghymru. Dywedodd Huw Thomas bod swyddfa'r NFU yn Llundain wedi gofyn am ragor o fanylion.  Dywedodd Lee Hackett bod gwaith nawr yn mynd rhagddo yn DEFRA i edrych ar ddeddfwriaeth debyg. Roedd angen defnyddio'r Bil yn llwyddiannus yng Nghymru nawr er mwyn ei amlygu a'i gymeradwyo.

Roedd pryderon o hyd am statws anstatudol y Bil. 

Nododd William Jenkins mai cyfrifoldeb y tirfeddiannwr oedd gwaredu unrhyw garcas sy'n cael ei adael yn dilyn pori anghyfreithlon, oni bai bod hynny'n digwydd yn agos at gwrs dŵr.

Dywedodd Steve Carter y byddai problemau o ran adnoddau i lawer o awdurdodau lleol. Dywedodd Angela Burns y byddai cyfle, fodd bynnag, i gyfeirio ceisiadau am gymorth gan awdurdodau lleol at y Gweinidog. 

 

6. Ymchwiliad i ferlod cynhenid

Gofynnwyd i Angela Burns, gan y Gweinidog, Alun Davies, arwain ymchwiliad annibynnol i'r pwnc hwn, i gynnwys yr holl faterion a meysydd, gyda chymorth gan y grŵp hwn.

Mae Phillip York yn gweithio gydag Angela ar y mater hwn.

Roedd yn ymddangos bod dwy elfen i'r gwaith. Y cyntaf oedd canfod a oes poblogaeth gynhenid ​​ac, os felly, lle mae'n bodoli, a sut i'w chadw fel rhan o dreftadaeth Cymru.

Yr ail elfen oedd edrych ar y boblogaeth o ran merlod eraill a allai fod wedi'u gadael ar diroedd comin ac ardaloedd tebyg ac sydd nawr yn cyfrannu at faterion gorfridio a lles parhaus.

Caiff dogfen ymgynghori yn ei llunio a'i dosbarthu i bawb sydd â diddordeb, er mwyn iddynt ymateb iddi.

Dywedodd Phillip York fod nifer o ffactorau i'w hystyried.  Roedd yn cynnwys cryn dipyn o waith a diffinio er mwyn symud ymlaen yn y modd cywir.

Er enghraifft, yn achos brid Exmoor, mae'r ceffylau yn cael eu corlannu ddwywaith y flwyddyn ac mae'r bridio genetig yn cael ei fonitro'n ofalus i gadw'r llinachau yn lân ac yn bur.

O ran y Tiroedd Comin yng Nghymru, bydd rhai o'r Cymdeithasau Cominwyr yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i ddatrys problemau o ran ceffylau'n cael eu gadael ar dir comin, ond nid ym mhob ardal. Dywedodd Jenny MacGregor ei bod hi'n anodd cael cominwyr i gyfarfod i geisio gweithio gyda'i gilydd. Roedd hawliau cominwyr yn amrywio o le i le.

Roedd llawer o oblygiadau o ran lles, a oedd yn arwain at or-fridio a marwolaethau ceffylau.

Dywedodd Colin Thomas ei fod yn credu bod rheolaeth briodol lle roedd y Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd yn gysylltiedig. 

Cafwyd trafodaeth ar y terma 'gwyllt' a 'lled-wyllt' a'u hystyron.

Trafodwyd Merlod y Carneddau - gobeithir y byddant yn cael eu rhestru fel brîd prin. Roedd Angela Burns yn bwriadu ymweld â'r ardal honno, a hefyd Exmoor, fel rhan o werthusiad astudiaeth achos.

Y casgliad oedd mai merlod nad ydynt yn cael eu rheoli oedd y broblem fawr.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddwy fuches ar brosiectau pori er lles cadwraeth. Cytunwyd y dylid sefydlu gweithgor. Cytunodd Alan Pearce, Colin Thomas, Rachel Evans, Tony Evans a Jenny MacGregor i weithio gydag Angela a Phillip ar hyn.

 

 

 

7. Unrhyw fater arall

Roedd problem ym Mhen-clawdd a'r ardal gyfagos ar y gors a'r aber o ran lles a diogelwch y ceffylau a oedd yn pori yno. Roedd Angela Burns bellach yn gwbl ymwybodol o hyn ac mae'n bwriadu ymweld â'r ardal i wneud gwerthusiad llawn.

Ar gyfer y cyfarfod nesaf, cytunodd Lee Hackett i wneud cyflwyniad ar basportau a gorfodi, yng ngoleuni trafodaethau diweddar yn DEFRA. 

Fe wnaeth y grŵp hefyd ystyried penodi aelodau ychwanegol - awgrymodd Colin Thomas y dylai fod cynrychiolydd tir comin eto. Bydd Jan Roche yn cysylltu â John Staley i weld a fyddai am ddod i'r cyfarfodydd, fel o'r blaen.  Yn dilyn hynny, y penderfyniad unfrydol oedd bod yr arbenigedd ar y grŵp ar hyn o bryd yn cwmpasu pob maes. Felly, ar hyn o bryd, nid oes angen unrhyw aelodau ychwanegol.

Soniodd Colin Thomas am erthygl yn Gwlad yn ddiweddar yn ymwneud â bwydo cnau betys ar dir comin. Dywedodd Mark Alexander y byddai'n sôn wrth yr adran amaeth am hyn.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 7.55pm